Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (253)v2 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) |
4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru (60 munud) NDM5716 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Ailgylchu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2015.
Dogfennau Ategol
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;
2. Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r potensial ar gyfer mwy o dwf; a
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy:
a) gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;
b) gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;
c) gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru; a
d) cynyddu'r gyfradd eithrio ar gyfer pob eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn is-bwynt 3c), ar ôl 'yng Nghymru', mewnosod 'drwy greu Banc Datblygu Cymru i weithredu fel 'siop un stop 'ar gyfer cyngor busnes a mynediad at gyllid a man galw cyntaf ar gyfer busnesau'
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu isbwynt 3d) a rhoi yn ei le:
galluogi cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd isbwynt 3d):
', ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.'
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cefnogi trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r seilwaith sylfaenol o'u cwmpas.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig. |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:
a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;
b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a
c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Mae Adroddiad Synthesis yr IPCC ar gyfer 2014 ar gael yn: http://www.ipcc.ch/pdf/assessment-report/ar5/syr/SYR_AR5_SPMcorr2.pdf (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi'r canlynol yn ei le:
Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'targedau' mewnosoder 'yn y Bil amgylchedd arfaethedig'.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'ac yn gwneud datganiadau rheolaidd i'r Cyfarfod Llawn ar y targedau hynny' |
7 Cyfnod pleidleisio |
8 Dadl Fer (30 munud) NDM5714 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Gweithgareddau'r Grid Cenedlaethol yng nghanolbarth Cymru.
Atal Sir Drefaldwyn rhag cael ei diwydiannu a'i dinistrio. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2015